Gwen Harp
Amser hapus rwyf i'n gofio yw yn ystod yr haf a mynd ar drip Ysgol Sul i Llandudno neu Rhyl. Roeddem yn edrych ymlaen at hyn drwy'r flwyddyn a safio arian yn clwb cynilo'r Ysgol Sul.
Gwen Harp yw fy enw i a ganwyd fi yn 1948, tair blynedd ar ôl diwedd y Rhyfel. Pan dorrodd y Rhyfel allan roedd Mam yn bymtheg oed ac wedi dechrau nyrsio yn Stanley Sailors' Hospital yng Nghaergybi. Roedd pawb yn gorffen yr ysgol yn bedair ar ddeg yr adeg honno. Rwy'n cofio Mam yn dweud bod bom wedi disgyn ar y tir y tu allan i'r ysbyty, twll mawr yn y ddaear a phawb wedi dychryn. Cafodd Church Hall yn Boston Street ei dinistrio a rhes o dai wrth ei ochr.
Aeth Mam wedyn i weithio yn Worcester yn Lloegr mewn ffactri gwneud awyrennau, y Lancaster Bomber dwi'n meddwl. Roedd nifer o genod ifanc yno hefo hi o bob rhan o'r wlad a gwaneth lawer o ffrindiau. Cofio hi'n dweud stori wrtha fi bod rationing yn mynd ymlaen adeg yna a doedd na ddim sana i gael a be oedd y merchad yn neud oedd peintio eu coesa hefo gravy browning a rhoi llinell lawr y cefn hefo dipyn o lo er mwyn cogio bod gennynt sana i fynd allan. Roedd popeth ar rations o fwyd i ddillad adeg hynny a dwi'n siwr nad oedd llawer o bobl dew o gwmpas adeg honno.
Ganed fy nhad yn 1915. Roedd fy nhad yn filwr yn yr Army yn 24 oed. Yn De Lloegr yr oedd o ar y gynnau ack-ack (1) yn saethu ar y Germans pan oeddent yn dod drosodd i bomio Llundain a llefydd eraill.
Yn y pentref lle roeddwn yn byw dim ond un teledu oedd hefo teulu ac roeddwn yn cael mynd yno i edrych arno ar ôl yr ysgol. Un diwrnod roedd fy chwaer a fi yno ac annwyd mawr arnon ni. Mi yrrodd gŵr y tŷ ni adra rhag spredio germs. Gwylltiodd fy nhad a gwerthodd ei gar i brynu teledu ac roedd rhaid iddo gerdded i'w waith bob dydd i RAF Fali tan fod gynno fo ddigon o arian i brynu car arall!
Amser hapus rwyf i'n gofio yw yn ystod yr haf a mynd ar drip Ysgol Sul i Llandudno neu Rhyl. Roeddem yn edrych ymlaen at hyn drwy'r flwyddyn a safio arian yn clwb cynilo'r Ysgol Sul.
(1) Ack-ack yw 'AA' yn yr wyddor ffonetig a ddefnyddiwyd ar y pryd. Mae 'AA' yn sefyll am 'Anti-aircraft Artillery'.


